top of page
Credu Logo

Rydym yn Credu mewn Gofalwyr Ifanc ac Oedolion sy’n Gofalu

Dewch i gysylltiad am groeso cynnes

A ydych yn gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind?

Yna rydych chi’n cyfrif hefyd!

Rydym yn gwrando arnoch, oherwydd mae pob unigolyn a’u hamgylchiadau yn unigryw. Rydym yn cefnogi gofalwyr di-dâl a gofalwyr o fewn teuluoedd o bob oedran yng Ngheredigion.

 

Mae rhai enghreifftiau o’r ffordd mae Gofalwyr yn cael cefnogaeth yn cynnwys:

  • Cael rhywun i siarad gyda hwy a fydd yn gwrando ac yn helpu i ganfod ffordd ymlaen

  • Cael mynediad at y wybodaeth gywir – i wneud dewisiadau yn seiliedig ar wybodaeth choices

  • Cysylltu gyda grwpiau, teithiau, gwasanaethau a sefydliadau eraill

  • Cael egwyl – gofal amnewid (oedolion sy’n gofalu), gweithgareddau a theithiau (gofalwyr ifanc) neu ffyrdd eraill o gael egwyl

  • Cefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu – gydag addysg, gwaith, cyfleoedd cymdeithasol, iechyd a lles

  • Sgiliau a hyfforddiant – ar gyfer eich rôl gofalu, ar gyfer eich lles a’ch dyheadau eich hunan

  • Llais a dylanwad – cefnogi gofalwyr i gael gwrandawiad i’w llais ac i ddylanwadu ar y sefydliadau a gwasanaethau maent yn eu defnyddio.

  • Cwnsela – gwasanaethau am ddim i bobl dros 18 mlwydd oed a ddarperir gan wirfoddolwyr

  • Nawdd – help i gael mynediad at grantiau, nawdd a budd-daliadau

  • Cefnogi gyda rhyddhau claf o’r Ysbyty, paratoi i rywun ddod adref o’r ysbyty a rôl gofalu newydd neu wedi newid

Credu33.jpg

I gael cefnogaeth, neu i ganfod mwy,

ffoniwch 03330 143377 neu anfonwch e-bost at ceredigion@credu.cymru

 

Mae Gofalwyr Ceredigion Carers yn gonsortiwm sy’n cynnwys Credu – Cysylltu Gofalwyr, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gorllewin Cymru..

Anfonwch neges atom ac fe fyddwn yn ei ateb yn fuan.

Neges wedi’i Hanfon yn Llwyddiannus

Credu Logo White

Mae Credu hefyd yn cynnig cefnogaeth i Ofalwyr Ifanc ac Oedolion sy’n Gofalu ym Mhowys (trwy Ofalwyr Credu).

WCD Logo White

Mae Credu hefyd yn cynnig cefnogaeth i Ofalwyr Ifanc yn Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych (trwy Ofalwyr Ifanc WCD).

Image by Jordan Ling

A ydych chi’n gofalu am rywun gyda chyflwr iechyd a/neu anabledd?

 

Yna rydych chi’n cyfrif hefyd!

Cefnogaeth y gallwn ei gynnig:

Gwybodaeth Ymarferol

Cefnogaeth Emosiynol

Cefnogaeth i Gyfoedion

Mynediad at gwnsela/therapi

Grwpiau a gweithgareddau i Oedolion sy’n Gofalu

Egwyliau Byrion/ seibiant

Get Support

A ydw i’n Ofalwr?

Os ydych yn gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind sy’n sâl neu’n anabl, yna rydych yn Ofalwr. Gall hyn fod yn blentyn / gŵr neu wraig / rhiant neu berthynas arall/ffrind. Mae Gofalwyr yn bwysig i deuluoedd a chymunedau, ac mae gofalu yn gallu bod yn werth chweil ac yn heriol mewn pob math o ffyrdd, yn ymarferol ac yn emosiynol.

 

Rydym yn meddwl fod Gofalwyr yn anhygoel. Rydym wrth ein boddau’n gwrando arnoch ac yn eich cefnogi gyda’r hyn sy’n bwysig i chi mewn ffordd sy’n gweithio i chi, boed os ydych angen ychydig o wybodaeth sylfaenol yn unig neu os ydych eisiau gweithio trwy ambell her gymhleth.

Image by Georg Arthur Pflueger

Oedolion sy’n Gofalu

A ydych yn oedolyn sy’n gofalu am rywun?

Pan fyddwch yn gofalu am eich plentyn / gŵr neu wraig / rhiant neu berthynas arall/ffrind … gall fod yn werth chweil ac yn heriol.

Mae Credu yma i’ch cefnogi chi a chynnig cefnogaeth ymarferol a/neu emosiynol. Credu is here to support you and offer practical and/ or emotional support. 

 

Mae ein cefnogaeth yn gwbl hyblyg o amgylch yr hyn sydd ei angen arnoch a’r hyn sy’n gweithio orau i chi.

Efallai y byddwn angen rhywun i fod yn llais ar eich rhan, neu eich bod angen cyngor ar bwnc penodol. Efallai y byddwch eisiau cael coffi a sgwrs yn unig, dewch i gyslltiad (link). Mae ein cefnogaeth yn gwbl hyblyg ac yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n gweithio orau i chi a’r hyn rydych yn ei ddweud sydd ei angen arnoch.

 

Rydym hefyd yn trefnu grwpiau/gweithgareddau cefnogi amrywiol y mae croeso i chi ymuno a chysylltu gyda gofalwyr eraill ynddynt.

 

Rydym yma i chi ac yn cynnig lefel o gefnogaeth yr ydych chi’n gyfforddus ag ef. Gallwch gysylltu â ni, a byddwch yn cael croeso cynnes.

Gofalwyr Ifanc / Oedolion Ifanc sy’n Gofalu

Gofalwr ifanc yw rhywun sy’n cefnogi neu’n helpu i ofalu am rywun sydd ag anabledd neu rywun sy’n sâl.

 

Mae gennym dîm cyfeillgar yng Ngheredigion sydd yno i gyflwyno gwybodaeth a chyfarwyddyd i ti, i’th gefnogi, i gynnig i’th gynrychioli neu i siarad ar dy ran os wyt ti angen help (er enghraifft gyda’r ysgol) neu i wrando arnat ti a deall dy sefyllfa yn unig.

 

Rydym yn deall pa mor heriol y gall fod i gefnogi rhywun tra’n jyglo cymaint o newidiadau yn dy fywyd megis ysgol/ ffrindiau/ bywyd cymdeithasol, a pha mor bwysig yn union yw cael rhywun i estyn allan atynt i siarad gyda hwy neu i fynd atynt am help neu gyngor.

 

Rydym hefyd yn trefnu grwpiau cefnogi a gweithgareddau a gallwn eich cysylltu chi gyda gofalwyr ifanc eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.

 

Mae Ceredigion yma i chi ac fe fyddwn yn gweithio gyda thi i gyflwyno’r union gefnogaeth sydd ei hangen arnat ac yr wyt ti ei heisiau.

Three Friends

Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Cyngor Ceredigion

Carers Info
Two people outside together

Cael eich cyflwyno i gefnogaeth

Gallwch ganfod hwy am atgyfeirio a hunan-gyfeirio yma

Cerdyn Gofalwyr Ifanc

Young Carers Card

Mae’r Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc ar gyfer Gofalwyr Ifanc.

Gofalwr Ifanc yw rhywun sy’n helpu i ofalu am ffrind neu aelod o’r teulu na allant ymdopi ar ben eu hunain oherwydd bod ganddynt anabledd, salwch corfforol neu feddyliol neu eu bod wedi’u heffeithio am gamddefnyddio sylweddau neu alcohol.

 

Byddi’n gallu ymgeisio am Gerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc os wyt ti neu’r unigolyn rwyt yn gofalu amdano/amdani yn byw yng Ngheredigion.

Image by Christopher Campbell
Mae Jointly yn cyfuno negeseuon grŵp a rhestrau o bethau i’w gwneud gyda nodweddion defnyddiol eraill, gan gynnwys calendr rhestrau meddyginiaeth a mwy.
News & Events

Newyddion a Digwyddiadau

Am yr holl Newyddion, Cliciwch Yma

Am yr holl Ddigwyddiadau, Cliciwch yma

bottom of page