top of page

Cyflwyno / Atgyfeiriadau

Cael eich cyflwyno i gefnogaeth

Mae’r ffurflen Hunanatgyfeirio ar gyfer Gofalwyr di-dâl/anffurfiol sy’n byw ym Ngheredigion. 

Mae’r ffurflen Atgyfeirio ar gyfer Gofalwyr cyflogedig/ffurfiol sy’n byw yng Ngheredigion.

Carers Booklet Front Cover

Mae eich Preifatrwydd yn bwysig

Mae preifatrwydd yn bwysig iawn i Credu a byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol i’n galluogi i roi cefnogaeth ichi a monitro’r gwahaniaeth a wneir drwy ein gwaith. Hwyrach y byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol Gofalwyr gyda Chyngor Sir Ceredigion fel ‘tasg gyhoeddus’ yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Ffurflen Atgyfeirio

Mae’r ffurflen hon ar gyfer Gofalwyr di-dâl/anffurfiol sy’n byw yng Ngheredigion i ymuno â rhestr bostio Credu a/neu i dderbyn cymorth. Mae’n ddolen ddiogel at Fas Data ‘Log Elusennol’ Credu.

​

Trwy lenwi’r ffurflen hon rydych yn rhoi caniatâd i Credu i ddefnyddio’r wybodaeth i gysylltu â chi ynghylch eich ymholiad. Gallwch ddisgwyl ymateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith.

Os ydych yn defnyddio’r ffurflen hon i wneud atgyfeiriad ar ran rhywun arall, bydd angen ichi gadarnhau eich bod wedi cael caniatâd y Gofalwr i rannu’r wybodaeth yma gyda Credu.

Mae preifatrwydd yn bwysig iawn i Credu a byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol i’n galluogi i roi cefnogaeth ichi a monitro’r gwahaniaeth a wneir drwy ein gwaith. Hwyrach y byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol Gofalwyr gyda Chyngor Sir Ceredigion fel ‘tasg gyhoeddus’ yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

​

Hwyrach y bydd Credu’n awgrymu sefydliadau a gwasanaethau eraill sy’n gallu cefnogi Gofalwyr, ond bydd yn trosglwyddo gwybodaeth i’r rhain yn unig gyda chaniatâd, oni bai bod risg i rywun.

Am fwy o wybodaeth ynghylch ein dulliau o brosesu data personol, eich hawliau o ran diogelu data neu i gwyno am ein ffordd o drin eich gwybodaeth, gallwch weld ein polisi preifatrwydd neu gallwch gysylltu â : Marie Davies, Swyddog Gweithrediadau ar: marie@credu.cymru neu 01597 823800

Self Referral Form
bottom of page