top of page

Dewch i Gysylltiad

Gall gofalu am berthynas neu ffrind sy’n sâl neu’n anabl fod yn werth chweil ond gall fod yn eithriadol o anodd hefyd. Os ydych yn gofalu am rywun, gallwch gael mynediad at amrywiaeth o gefnogaeth yng Ngheredigion.

 

Bydd Gofalwyr Ceredigion Carers yn cyflwyno ychydig o’r gefnogaeth hon.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Cyflwyno gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth emosiynol ar sail unigol

  • Gweithgareddau grŵp sy’n cynnwys cyfleoedd hyfforddi a chymdeithasol

  • Help i gael mynediad at gefnogaeth i gael egwyl o ofalu, gan gynnwys seibiant

 

Mae nifer o Ofalwyr di-dâl eisoes yn cael mynediad at gefnogaeth i Ofalwyr, yn mynychu grwpiau Gofalwyr, ac o bosibl yn derbyn ychydig o seibiant; fodd bynnag, mae nifer yn straffaglu ar ben eu hunain a heb gefnogaeth. Os y byddech chi neu unrhyw un rydych yn ei adnabod yn hoffi ychydig o gefnogaeth, boed os yw hynny yn gollwng stêm yn syml iawn, cael ychydig o gyngor neu i gael ychydig o seibiant tymor byr, dewch i gysylltiad ar 03330 143377.

ffôn:

03330 143377.

E-bost

Cyfryngau cymdeithasol

  • Facebook
  • Twitter
Neges wedi’i Hanfon yn Llwyddiannus
Credu Logo White

Mae Credu hefyd yn cynnig cefnogaeth i Ofalwyr Ifanc ac Oedolion sy’n Gofalu ym Mhowys (trwy Ofalwyr Credu).

WCD Logo White

Mae Credu hefyd yn cynnig cefnogaeth i Ofalwyr Ifanc yn Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych (trwy Ofalwyr Ifanc WCD).

bottom of page